ElinorPRICE-PRITCHARDPRICE-PRITCHARD - ELINOR. 6 Medi, 2009. Yn dawel yng Nghartref Nyrsio y Pwyliaid, Penrhos, yn 86 mlwydd oed, o Arosfa, Yr Ardd Fawr, Mynytho. Priod annwyl Tecwyn a mam gariadus i Myfanwy, a mam yng nghyfraith garedig i Arvon. Bydd y golled yn enfawr i'w theulu a ffrindiau oll. Gwasanaeth preifat ym Mynwent Eglwys Llangian, dydd Llun, Medi 14 am 1.30 o'r gloch. Blodau'r teulu agosaf yn unig. Ymholiadau pellach i'r Ymgymerwr, Evan W. Pritchard, Morfa Nefyn. Ffon: 01758 720219.
Keep me informed of updates